Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Constitutional and Legislative Affairs Committee

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

 

Senedd and Elections (Wales) Bill

CLA(5) SE12a

Tystiolaeth ychwanegol gan y Comisiwn Etholiadol

Additional evidence from the Electoral Commission

Diolch unwaith eto am y cyfle i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfansoddiadol a Materion Deddfwriaethol fel rhan o'i waith yn craffu ar Fil y Senedd ac Etholiadau (Cymru) ar 29 Ebrill 2019.

Yn ystod y sesiwn hon, gofynnwyd cwestiwn i ni am y broses gofrestru yn yr Alban, ym mha ffordd roedd yn wahanol i Gymru ac unrhyw fanteision neu anfanteision i'r broses hon.

Mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn swyddog a gaiff ei bennu gan yr awdurdod lleol i baratoi a chynnal y gofrestr etholwyr. Ledled yr Alban (ac eithrio Dinas Dundee a Fife) mae cynghorau wedi penodi Asesydd lleol fel Swyddog Cofrestru Etholiadol.

Yn yr Alban, mae'r aseswyr yn gyfrifol am brisio pob eiddo etifeddol at ddibenion trethu lleol o fewn eu meysydd prisio perthnasol. Mae pob un o'r 32 o gynghorau lleol yn yr Alban yn awdurdod prisio ac yn gyfrifol am benodi Asesydd. Fodd bynnag, dim ond 14 Asesydd sydd yn yr Alban, gyda phedwar ohonynt yn cael eu penodi'n uniongyrchol gan un Cyngor a'r deg arall yn cael eu penodi gan Gyd-Fyrddau Prisio sy'n cynnwys aelodau etholedig a benodwyd gan ddau Gyngor neu fwy. 

Mae'r rheswm pam fod nifer o Aseswyr lleol hefyd yn gweithredu fel Swyddog Cofrestru Etholiadol yn dyddio yn ôl i 1856, pan gafodd y ddeddfwriaeth ei phasio a oedd yn gwneud y Rhestr Brisio yn sail ar gyfer y Gofrestr Etholiadol ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu creu gan yr un person. Cafodd y gofyniad cyfreithiol hwn ei ddiddymu yn 1975, ond yn ymarferol, mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn yr Alban wedi parhau i benodi'r Asesydd fel Swyddog Cofrestru Etholiadol. 

Er nad oes gan y Comisiwn farn ar ba drefniant sydd fwyaf priodol, byddai Cymdeithas Aseswyr yr Alban yn dadlau mai prif fanteision y system hon yw bod angen cronfa ddata gyfredol a chywir fel sail iddi ar y gofrestr etholwyr, ac mai'r Aseswyr yw'r cyntaf i gael eu hysbysu am eiddo newydd. Mae hefyd yn rhoi rhywfaint o wydnwch mewn cyfnodau etholiadau prysur am fod y Swyddog Cofrestru Etholiadol ond yn canolbwyntio ar gofrestru etholiadol a chreu rhestrau o bleidleiswyr absennol tra bod y Swyddog Canlyniadau yn canolbwyntio ar weinyddu'r bleidlais. 

Fodd bynnag, mae cyflawni'r swyddogaethau ar wahân mewn swyddfeydd ar wahân yn golygu bod angen cryn dipyn o ymddiriedaeth a chyfathrebu rhwng swyddogion yr awdurdod lleol a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol er mwyn sicrhau bod y ddwy swyddogaeth yn integreiddio'n ddidrafferth yn ystod cyfnodau etholiadau pan allai'r systemau fod o dan bwysau. 

Nid oes unrhyw dystiolaeth i ddangos bod y trefniant gwahanol hwn wedi cael effaith sylweddol ar gyfraddau cofrestru yn yr Alban, o gymharu â Chymru.

Mae croeso i chi gysylltu â ni os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch. 

Yn gywir,

 

 

Rhydian Thomas

Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru